Ganolfan Gwyddorau Môr Cymhwysol
Croeso i’r Ganolfan Gwyddorau Môr Cymhwysol (CAMS)
Cynyddu effaith ymchwil morol: Mae CAMS yn cysylltu ymchwil academaidd gyda’i ddefnyddio yn y byd go iawn; caiff pob un o’n projectau eu diffinio gan anghenion y defnyddiwr terfynol ac mae’r canlyniadau yn cael eu defnyddio’n gyflym i faterion penodol.
Arbenigedd Gwyddorau Môr: Mae gennym dros 30 o staff penodedig brojectau penodol, rydym hefyd yn defnyddio sgiliau amlddisgyblaethol dros 100 aelod o staff yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, un o’r canolfannau gwyddor môr academaidd mwyaf yn Ewrop.
Mynediad at Adnoddau Arbenigol: gallwn roi mynediad at ystod eang o gyfleusterau ac offer arbenigol, labordai, cyfleusterau cyfrifiadurol ynghyd â’r llong ymchwil Prince Madog a nifer o gychod llai.
Ymchwil ar y cyd: Rydym yn gweithio gyda phartneriaid mewn diwydiant, asiantaethau cenedlaethol a rhyngwladol a’r llywodraeth mewn nifer o wahanol gysylltiadau yn cynnwys rhaglenni strategol, ymchwil ar y cyd, ymchwil contract ac ymgynghori.
Mae CAMS yn cynnwys yr isadrannau arbenigol canlynol:
- Cemeg Cymhwysol
- Bioleg Môr Cymhwysol
- Eigioneg Gymhwysol
- Rheolaeth Parth Arfordirol
- Geowyddoniaeth Môr
- Arolwg ac Offeryniaeth
Cysylltwch â CAMS os oes gennych ddiddordeb mewn:
- Ymchwil Contract
- Rhaglenni ymchwil ar y cyd
- Hyfforddiant
- Mentrau cefnogi busnesau